Hanes

Y Dechreuadau

Dechreuodd yr achos pan sefydlwyd ysgoldy yn Heol y Prior i gymeryd lle ysgoldy’r Tanerdy a odd wedi mynd yn adfeilion. Hyfryd meddwl mai yn yr Ysgol Sul y cychwynnodd yr eglwys hon.

Am gyfnod hir, rhwng dafeilio’r ysgoldy yn y Tanerdy a symud i Heol y Prior, cynhaliwyd yr ysgol hon yn nhŷ Daniel Jones, Y Ffatri. Bu Daniel Jones farw ym 1899, wedi oes hir. Ef ar y pryd oedd yr hynaf o ddiaconiaid yr eglwys, ac mae ei gyd-swyddogion yn cofio amdano ac yn dweud ‘Gwelodd dydd y pethau bychain; bu “ysgol fach Cwmoernant” (fel y gelwid hi yn gynt) yn cael ei chynnal yn ei dŷ ef am dymor, a llawenydd nefolaiddd iddo oedd gweled y “fechan yn fil, a’r wael yn genedl gref”.’

Y cam nesaf

Mae’n ymddangos mai’r Parchg D.Cadvan Jones, a oedd ar y pryd yn weinidog ar eglwys Abergwili a gymerodd y cam nesaf. Gwelodd yr angen am eglwys lawn yn y rhan hon o’r dref, ardal ddiwydiannol ar y pryd hwnnw. Ymgynghorodd â gweinidogion eglwysi Annibynnol eraill y dref, Heol Awst a Heol Undeb, a chafodd gefnogaeth barod ganddynt hwy a chan eglwys Abergwili i sefydlu’r achos newydd. ‘Roedd Cadvan Jones wedi prynu ystory yn Heol y Prior a’i addasu at bwrpas yr Ysgol Sul. Ond ‘roedd yn amlwg fod angen eglwys yn y cylch ac felly ar Ebrill 17, 1871 cynhaliwyd cyfarfod i gysegru’r adeilad, a naw o weinidogion yn cymeryd rhan ac yna, ar Fai 7, sefydlwyd eglwys gyda deugain o aelodau.

Mae’n rhaid fod y Parchg D.Cadvan Jones yn ŵr penderfynol ac ymroddgar. Ym mis Gorffennaf 1871, darllenwn amdano yn dwyn hanes yr eglwys newydd i sylw Cymanfa Orllewinol Deheudir Cymru yn Llanelli ac yn dweud ei fod wedi prynu tir er mwyn codi capel newydd, fod hynny eisioes wedi costio £600, a’u bod o’r herwydd mewn dyled o £400, ac yn gofyn am ganiatâd y Gymanfa i gasglu arian yn eglwysi’r cylch.

Y Capel newydd

Codwyd y capel presennol yn 1876, ac erbyn hynny ‘roedd y ddyled yn £2,200. Ym 1886 y cliriwyd hi, a hynny drwy haelioni aelodau a charedigrwydd cyfeillion o’r tu allan.

Ni wyddai neb pa enw i’w roi ar y Capel. A ddylid rhoi enw Beiblaidd? ‘Roedd y dewis terfynol yn sicr yn un hapus iawn. Nepell o sail y capel newydd bu yna briordy arall, wedi’i sefydlu o dan y Normaniaid ac yn corffori rheolau a disgyblaethau’r Canoniaid Duon. Y yn priordy hwnnw, mae’n bosib, y casglwyd at ei gilydd gynnwys un o’r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd ar gael, ‘Llyfr Du Caerfyrddin’. Oes, mae sŵn cerddediad y canrifoedd yn y gair ‘Priordy’. Ac awgrym o lawer dull a llawer modd o gyflwyno a lledaenu’r Efengyl.

Cynyddoedd rhif yr aelodau o 40 ym 1871 i 100 ym 1873, i 250 erbyn 1886 ac i bron dri chant erbyn diwedd y ganrif. Rhaid cofio fod y rhain yn flynyddoedd mawr Annibyniaeth o ran rhif aelodau eglwysi a gwrandawyr. Cyrhaeddodd mynychu lle o addoliad ei benllanw ym mlynyddoedd y Diwygiad.

Heddiw

Sicrhaodd y Priordy weindiogaeth cyson ar hyd blynyddoedd hir ei hanes, a sefydlwyd saith gweindiog arall yn eu tro i olynu’r Parchg D.Cavan Jones. Erbyn heddiw rhif ei haelodaeth yw 200+ ac mae yma eglwys llawn bwrlwm a gweithgrawch.

Ac o raid, bydd Gair yr Iôr

yn parhau yn Nhŷ’r Prior.’ (Tudur Dylan Jones)

(Defnyddiwyd rhagair Y Parchg T.James Jones o’r gyfrol Braslun o hanes achos Y Priordy (1971) yn sail i’r uchod ynghyd â peth hanes allan o gyfrol Y Parchg E.Keri Evans Hanes Eglwys Annibynnol Y Priordy Caerfyrddi (1926))