Cartref

Saif y Capel ar Heol Y Prior, nepell o gylchfan Yr Hen Dderwen.  

  Mae'r eglwys yn rhan o ofalaeth ac yn cyd-weithio'n hapus gydag Eglwys Annibynnol Cana, ger Caerfyrddin, ac Eglwys Bresbyteraidd Bancyfelin



Y mae'r Priordy yn perthyn i enwad yr Annibynwyr Cymraeg.
http://www.annibynwyr.org/

Gweinidog: Y Parchg. Beti-Wyn James B.D.

Trefn y Sul:

Oedfa'r Bore am 10 o'r gloch.

Oedfa'r hwyr am 5 o'r gloch

Ysgol Sul y plant am 10 o'r gloch
Croesawn blant a phobl ifanc i'r Oedfa am 10 o'r gloch a chant le amlwg yn yr addoliad yn ystod hanner cynta'r gwasanaeth, cyn mynd i'r festri ar gyfer yr Ysgol Sul. Croeso mawr i blant a phobl ifanc o bob oed.

Ysgol Sul yr Oedolion am 11 o'r gloch
Maes Llafur yr Ysgol Sul

Cynhelir
oedfa dan arweiniad cenhedlaeth iau yr eglwys un waith y mis. Ceir manylion pellach yn y Calendr.

Felly, croeso mawr i'r wê-fan! Gobeithio'n fawr y cewch foddhad o fod yn ein plith.

Sign in  |  Recent Site Activity  |  Terms  |  Report Abuse  |  Print page  |  Powered by Google Sites