Skip to content

Ysgol Sul

Mae’r Ysgol Sul yn cwrdd bob bore Sul ac yn cynnig amrywiaeth o weithgared dau i blant a phobol ifanc o bob oed.

Mae’r Ysgol Sul yn aelodau o M.I.C (Menter Ieuenctid Caerfyrddin) mic@uwclub.net lle ceir cyfle i ymuno mewn nifer o weithgareddau cyd-enwadol yn ystod y flwyddyn er engraiff Y Bwrlwm Bro, Cwis Beiblaidd, Mabolgampau a Thwrnament Pel-droed a Phel-rhwyd.

Gwahoddir y genhedlaeth iau a’u teuluoedd i’r oedfa erbyn 10 er mwyn iddynt gael cyfle i ymuno yn yr addoliad cyn mynd i’r festri.

Mae P.I.P (Pobol Ifanc Y Priordy) hefyd yn cwrdd ar fore Sul a darperir yn arbennig ar gyfer y bobol ifanc.

Cynhelir oedfa dan arweiniad y plant a’r bobl ifanc un waith y mis.

Manylion cyfan ym Mhapur Priordy (tudalenau Ifanc@Priordy)

Facebook Capel Y Priordy

Trydar @CapelYPriordy

Calendr y plant a’r bobl ifainc

Chwefror4Ysgol Sul
11
18Ysgol Sul
25Gŵyl Dewi
Mawrth3Ysgol Sul
10Oedfa Deulu
17Erw Hir
24
31